OS YDYCH YN
DARGANFOD
NODWYDD NEU
CHWISTRELL
PIEDIWCH
A'L
GYFFWRDD!
RHOWCH ALWAD I'R LLINELL YSBWRIEL CYFFURIAU NAWR:
0808 808 2276
MAE ADRODDIADAU O NODWYDDAU A CHWISTRELLAU SYDD WEDI CAEL EU GADAEL YN EU TRIN FEL GALWADAU BRYS

Nodwyddau a chwistrellau sydd wedi cael eu gadael – cyngor i'r cyhoedd

Pan mae nodwyddau a chwistrellau wedi cael eu gadael mewn lleoedd cyhoeddus gall hyn arwain yn aml at ofn a phryder am y perygl o drosglwyddo afiechydon. Mewn gwirionedd mae'r perygl i iechyd yn isel iawn oherwydd mae anafiadau fel arfer yn rhai arwynebol ac nid yw'r gwaed yn y chwistrellau bellach yn heintus. Nid oes yna unrhyw achos wedi ei gofnodi lle cafodd HIV ei drosglwyddo drwy gysylltiad â nodwydd neu chwistrell oedd wedi cael eu gadael mewn lle cyhoeddus.

Fodd bynnag mae un nodwydd sydd wedi cael ei gadael yn un yn ormod ac rydym yn ceisio sicrhau nad yw'r cyhoedd mewn unrhyw fath o berygl.

Os ydych yn darganfod nodwyddau a chwistrellau mewn lle cyhoeddus, drwy gysylltu gyda'n llinell ysbwriel cyffuriau, byddwn yn gallu sicrhau bod y manylion yn cael eu rhoi i'r Awdurdod Lleol sydd â staff wedi eu hyfforddi'n arbennig i symud a chael gwared ag offer o'r math yma drwy ddefnyddio offer diogelwch pwrpasol.

Sut mae riportio nodwyddau/chwistrellau sydd wedi cael eu gadael

Yng Ngogledd Cymru mae gennym linell rhadffôn pwrpasol er mwyn i'r cyhoedd riportio unrhyw nodwyddau a chwistrellau maen nhw'n ei ddarganfod yn eu cymuned

Bydd angen i chi ddweud union leoliad a niferoedd yr offer sydd wedi cael eu gadael er mwyn i ni gael ymateb mor sydyn â phosibl.

Gallwch wneud hyn drwy un ai:

  • Ymweld â www.drugslitterline.org.uklle cewch ffurflen syml i'w chwblhau, neu
  • Ffonio Rhadffôn 0808 808 2276 lle cewch siarad ag un o'n staff

Os ydych yn darganfod nodwydd neu chwistrell wedi cael eu gadael:

PEIDIWCH:
  • Peryglu eich hun nac eraill
  • Ei guddio
  • Gwahanu'r nodwydd o'r chwistrell
  • Rhoi'r caead yn ôl ar y nodwydd
  • Chwarae gyda'r nodwydd neu chwistrell
  • Rhoi'r offer yn y bin sbwriel, i lawr y draen na'r toiled

Os ydych yn teimlo bod yna berygl ar y pryd i blant neu bobl eraill ac eich bod yn hyderus gallech chi wneud rhywbeth eich hun yn y fan a'r lle yna dilynwch y cyngor isod. Peidiwch byth a rhoi eich hun mewn perygl.

DYLECH:
  • Gael hyd i rywbeth i ddal yr offer fel potel blastig, jar, tun, ac yn y blaen
  • Ewch a'r peth sy'n dal yr offer at y nodwydd/chwistrell
  • Byddwch yn ofalus wrth afael yn yr offer (yn ddelfrydol gwisgwch fenig plastig/garddio) a pheidiwch â chyffwrdd pwynt main y nodwydd. Defnyddiwch rywbeth a choes hir i'w ddal os yn bosib.
  • Codwch y chwistrell o gwmpas y faril yn unig a pheidio byth â chyffwrdd y pwynt main.
  • Rhowch y nodwydd (pwynt main) i mewn i'r peth sy'n ei ddal gyntaf.
  • Caewch gaead y peth sy'n ei ddal.
  • Ewch ag o at eich fferyllydd lleol pan welwch yr arwydd hwn er mwyn iddo gael ei waredu'n ddiogel.
  • Golchwch eich dwylo yn drwyadl wedyn.

Beth ddylech ei wneud os cewch eich anafu gan nodwydd?

Please complete the form below to request a callback

About you

Enw:
Ffon:
We will aim to call you back as soon as possible